P-05-945 Yr Argyfwng Hinsawdd a Choedwig Genedlaethol i Gymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Coed Cadw - The Woodland Trust in Wales, ar ôl casglu cyfanswm o 4,354 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
gynyddu gorchudd coed ar frys a hynny er mwyn helpu mynd i'r afael
â'r argyfwng hinsawdd a chwymp natur sydd wedi'i gofnodi'n
dda.
Fe ddatgelodd 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' Llywodraeth
Cymru nad oes unrhyw ecosystemau yng Nghymru yn wydn yn
ecolegol.
Mae arnom angen mwy o goed mewn ardaloedd trefol a gwledig i fynd
i'r afael â lefelau uchel o lygredd aer, i leihau cyfnodau
poeth dros ben ynghyd â llifogydd, i gynyddu bywyd gwyllt a
chreu storfa garbon uwchben ac o dan y ddaear.
Fe all afonydd, gwrychoedd a lleiniau gysylltu cynefinoedd mewn
ffordd effeithiol iawn, ac mae'r rhain yn croesi Cymru o'r
mynyddoedd i'r arfordir. Mae gan lawer ohonynt goedwigoedd, dolydd
a chorsydd hynafol cyfoethog o ran bioamrywiaeth, ond mae eu hystod
a'u hansawdd wedi dirywio'n aruthrol dros y 50 mlynedd
diwethaf.
Mae ein hafonydd ar eu hiachaf pan fydd stribedi eang o goetir
llydanddail wrth eu hochrau, wedi'u pori'n ysgafn. Mae coed yn
darparu rhywfaint o gysgod tywyll gan gadw afonydd yn oer a'u
hamddiffyn rhag llygredd, gan leihau erydu pridd sy'n digwydd mewn
ffordd anghynaladwy, a'u helpu i gadw ffermwyr ar y tir.
Er mwyn helpu natur i wella mae rhaid i ni ail-greu tirweddau sy'n
fwy cyfeillgar i fyd natur trwy greu cynefinoedd rhyng-gysylltiedig
mwy ac iachach.
Wedi'i gosod a'i hariannu'n gywir, fe all coedwig genedlaethol
newydd ddarparu llawer o atebion ar gyfer holl genedlaethau'r
dyfodol, sef Cymru 'wytnach'.
Rydym
yn galw am strategaeth gynhwysfawr i gyflawni:
Gwybodaeth ychwanegol:
Cyfeiriadau
Argyfwng Hinsawdd: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-llywodraeth-cymru-yn-datgan-ei-bod-yn-argyfwng-hinsawdd?_ga=2.201866649.961203271.1566908326-1911851882.1561038657
Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol:
Cymru Wydn: https://futuregenerations.wales/cy/aotp/resilience-cy/
Gyda stribedi eang o goetir llydanddail wrth eu hochrau, wedi'u pori'n ysgafn: https://www.researchgate.net/publication/281902234_Beyond_cool_Adapting_upland_streams_for_climate_change_using_riparian_woodlands
Meithrinfeydd coed cymunedol: https://www.longforest.cymru/News/planhigfeydd-coed-cymunedol-blog-gan-coed-cadw
Amaeth-goedwigaeth: cyfuno amaethyddiaeth a choed https://www.woodlandtrust.org.uk/blog/2018/07/cynhaeaf-cenedlaethau-r-dyfodol/
Geirfa
Bioamrywiaeth: yr amrywiaeth o fywyd a geir ar y ddaear. Mae'n cynnwys pob rhywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid, eu niferoedd a'u hamrywiaeth genetig
Gwydnwch ecosystem: mae hwn yn golygu pa mor dda y gall ecosystemau ddelio ag aflonyddwch - naill ai trwy eu gwrthsefyll, gwella ohonynt, neu addasu iddynt. Gall ecosystemau gwydn barhau i ddarparu gwasanaethau a buddion er gwaethaf yr aflonyddwch hwn
Cynefin: cartref neu amgylchedd naturiol anifail, planhigyn neu organeb arall
Cysylltedd cynefinoedd: sut mae darnau o gynefin yn cysylltu â'i gilydd i ffurfio rhwydwaith cynefinoedd cysylltiedig sy'n caniatáu i rywogaethau ryngweithio a symud
Gwrychoedd a Lleiniau: y cynefinoedd sy'n ffurfio gwrychoedd, llinellau coed, lleiniau, ymylon afonydd a nentydd, ffosydd, waliau cerrig a ffiniau eraill
Nwyddau Cyhoeddus: nwyddau neu wasanaeth a ddarperir heb elw i bob aelod o gymdeithas, naill ai gan y llywodraeth neu gan unigolyn neu sefydliad preifat
Gorchudd Coed: yr ardal sydd wedi'i chysgodi gan ganopïau coed a llwyni
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerdydd
· Canol De Cymru